Mae Dafydd yn arbenigwr technoleg, gyda phrofiad o arwain trawsnewidiadau digidol cymhleth mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae ei arbenigedd mewn trawsnewid TG cymhleth, cefnogi timau technoleg wrth iddynt adeiladu gwasanaethau digidol newydd, a hyfforddi swyddogion gweithredol i osod yr amodau ar gyfer llwyddiant.
Roedd yn un o sylfaenwyr Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig - a oedd yn chwyldro o ran sut mae’r llywodraeth yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, trwy ffyrdd digidol modern o weithio.
Ar hyn o bryd mae’n Brif Swyddog Technoleg ar gyfer cwmni ymgynghori digidol byd-eang ac yn gyfarwyddwr anweithredol yn GIG Cymru.