Ein hadroddiad

Darllen pellach

Mae'r adroddiad hwn yn nodi llwybr at wasanaethau cyhoeddus gwell, wedi'i seilio ar ddegawdau o brofiad ac arfer. I'r rhai sy'n barod i gymryd y cam nesaf, rydym wedi paratoi adnoddau hanfodol i gefnogi gweithredu’n ymarferol.

11 o lyfrau, adroddiadau a chanllawiauYr adroddiad

Mae’r llyfrau, yr adroddiadau a’r gwefannau hyn yn cynnig canllawiau clir ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, cyflawni ystwyth, gweithio agored, ac adeiladu seilwaith digidol modern.

Y cyd-destun yng Nghymru

  • Adroddiad · 2018

    System Reboot

    Gan Lee Waters

    Mae’r adroddiad dylanwadol hwn yn amlinellu’r angen brys am drawsnewid systemig o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gan osod y cefndir ar gyfer ein gwaith, mae’n tynnu sylw at heriau hirhoedlog ac yn cyflwyno’r achos dros ddull beiddgar, newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

  • Safon

    Safon Gwasanaethau Digidol Cymru

    Gan Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Llywodraeth Cymru

    Mae Safon Gwasanaethau Digidol Cymru yn darparu canllawiau ymarferol, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ar gyfer dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn diwallu anghenion defnyddwyr. Mae’n ymgorffori’r egwyddorion ’ffordd well’ rydyn ni wedi’u hamlinellu, gan gynnig fframwaith pendant i dimau ledled Cymru adeiladu gwasanaethau sy’n symlach, yn gliriach ac yn gyflymach.

Ffyrdd o weithio

  • Llyfr

    The Radical How

    Gan Andrew Greenway a Tom Loosemore

    Mae’r llyfr hwn yn lasbrint hynod ddiddorol ar gyfer cyflawni trawsnewid o fewn llywodraeth. Mae’n cynnig canllawiau ymarferol ar feddylfryd, dulliau a heriau trawsnewid digidol, gan lywio ein pwyslais ar symud y tu hwnt i atebion tymor byr a sicrhau ffyrdd newydd o feddwl a gwneud.

  • Canllaw

    Test and Learn Playbook

    Gan Martina Vojtkova, Laurie Smith and Suraj Vadgama

    This playbook provides actionable strategies for adopting a ’test and learn’ approach, which is crucial for agile delivery and responding to real-world feedback. It offers practical methods for experimentation, rapid iteration, and learning from failure, directly supporting our report’s emphasis on flexibility and continuous improvement in public services.

  • Llyfr

    The agile comms handbook

    Gan Giles Turnbull

    Mae cyfathrebu clir ac agored yn hanfodol ar gyfer trawsnewid digidol llwyddiannus - yn enwedig wrth weithio yn agored. Mae’r llawlyfr hwn yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i gyfathrebu’n dryloyw, gan ganiatáu ailadrodd a gwella a chefnogi ein galwad am dryloywder radical a helpu i adeiladu diwylliant gwasanaeth cyhoeddus mwy agored.

    ISBN 978-1-7399422-3-6

  • Llyfr

    Ysgrifennu Triawd: Dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

    Gan Joanna Goodwin, Adrián Ortega, Ceri Brunelli-Williams, Heledd Quaeck, a Nia Campbell

    Mae’r canllaw ymarferol hwn i ysgrifennu ar y cyd yn cefnogi ein hegwyddorion o weithio mewn tîm agored ac amlddisgyblaethol. Mae’n dangos sut y gall cydweithio strwythuredig gynhyrchu cynnwys dwyieithog clir sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan arwain at gyfathrebu a chanlyniadau gwell mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

    ISBN 978-1-4467822-4-8

Arwain a threfnu ar gyfer newid

  • Llyfr

    Digital Transformation at Scale

    Gan Andrew Greenway, Tom Loosemore, Mike Bracken a Ben Terrett

    Gan adeiladu ar brofiad helaeth o Wasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r llyfr hwn yn cynnig cipolwg hollbwysig ar sut y gellir rheoli trawsnewid digidol mawr ar draws sefydliadau mawr a chymhleth. Mae’n cefnogi ein galwadau am arweinyddiaeth feiddgar, timau amlddisgyblaethol, a ffocws ar gyflawni parhaus, ac yn dangos sut mae’r egwyddorion hyn yn trosi’n newid systemig ar raddfa fawr.

    ISBN 978-1-9130193-9-6

  • Llyfr

    The Service Organization

    Gan Kate Tarling

    Mae’r llyfr hwn yn cynnig canllawiau hanfodol ar sut y gellir strwythuro a arwain sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau modern, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn effeithiol. Mae’n darparu fframweithiau ymarferol ar gyfer adeiladu diwylliant sefydliadol sy’n cefnogi dylunio a darparu gwasanaethau’n barhaus, ac yn llywio’n uniongyrchol ein hargymhellion ar arweinyddiaeth, timau amlddisgyblaethol, a ffyrdd gwell o weithio.

    ISBN 978-1-913019-76-1

Adeiladu’r wladwriaeth ddigidol

  • Mae’r meddwl dylanwadol hwn yn archwilio’r cysyniad o ’lwyfannau’ fel seilwaith digidol sylfaenol, gan symud y tu hwnt i wasanaethau unigol i greu cydrannau y gellir eu hailddefnyddio a galluoedd a rennir ar draws y llywodraeth. Mae’n sail i’n hargymhellion ar gyfer trwsio ’seilwaith’ y llywodraeth a symleiddio caffael, gan alluogi gwladwriaeth ddigidol fwy integredig ac effeithlon.

    ISBN 978-1-9167491-1-5

  • Papur polisi · 2025

    A blueprint for a modern digital government

    Gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg llywodraeth y Deyrnas Unedig

    Mae’r glasbrint hwn yn nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth ystwyth, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr - mae’n atseinio’n ddwfn â’n hargymhellion. Mae’n ategu pwysigrwydd seilwaith cyhoeddus digidol integredig, safonau agored, a ffocws ar ganlyniadau, ac yn darparu cyd-destun strategol ehangach ar gyfer y camau gweithredu a gynigir yn ein hadroddiad.

  • Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer adeiladu gwladwriaeth ddigidol fodern, sy’n arbennig o berthnasol mewn cyd-destun datganoledig. Mae ei ffocws ar gydrannau sylfaenol, galluoedd a buddsoddiadau strategol yn darparu cyfatebiaethau gwerthfawr ac yn atgyfnerthu’r newidiadau systemig yr ydym yn dadlau drostynt: arweinyddiaeth, sgiliau a chyllid i alluogi trawsnewid digidol cynaliadwy yng Nghymru.

    ISBN 978-1-0685451-0-8

Dechrau gyda’n hadroddiad

Mae Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru fodern yn nodi beth ddylai Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud, a sut.

Yr adroddiad Lawrlwytho’r PDF