Awdur

Nia Campbell

3 cofnod

Mae Nia yn ddylunydd a strategydd gyda dros ddegawd o brofiad o lunio gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol ar draws y llywodraeth, iechyd a gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector. Mae hi wedi arwain trawsnewidiad cynnwys a gwasanaethau, wedi cynghori ar ddylunio dwyieithog yn y llywodraeth ganolog, ac wedi datblygu strategaethau sefydliadol sy’n cryfhau timau yn ogystal â gwasanaethau.

Ochr yn ochr â’i gwaith proffesiynol, mae Nia yn drefnydd cymunedol gweithgar. Mae hi’n creu mannau i ymarferwyr digidol gysylltu, rhannu syniadau a meithrin hyder. Mae hi wedi ymrwymo i ffyrdd agored a chydweithredol o weithio sy’n gadael gwerth parhaol y tu hwnt i brosiectau unigol.

Blogiau gan Nia Campbell

  • Nodyn

    Dysgon ni iaith ddigidol. Nawr mae'n bryd dysgu'r arfer.

    Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn helpu timau i symud o siarad am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) i’w wneud mewn gwirionedd, yn aml fel rhan o raglenni trawsnewid digidol. Un peth rydw i wedi’i ddysgu yw hyn: nid yw …

  • Adroddiad

    Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru fodern

    Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu strategaeth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus Cymru, nid yn unig i ddiwallu gofynion brys y presennol ond i gyflawni gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gallwn sicrhau Cymru …