Ym mis Rhagfyr fe wnaethon ni gau ein tudalen ariannu torfol, a sefydlwyd i dalu costau i sicrhau bod ein hadroddiad, Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru Fodern yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf angen ei weld.

Gyda’ch cefnogaeth, rydym wedi argraffu 150 copi o’r llyfr a’u hanfon at ymgeiswyr gwleidyddol, Aelodau’r Senedd, uwch arweinwyr mewn llywodraeth, ac ymgyrchwyr cymunedol.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu baner, cardiau a sticeri i helpu i ledaenu’r neges a chadw’r sgwrs i fynd.

Codwyd £1,548 gan 32 o roddwyr. Mae gennym £450 wedi’i neilltuo ar gyfer costau marchnata a dosbarthu pellach.

Yn syml iawn: ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl hebddoch chi.

Diolch yn fawr iawn i bob unigolyn a roddodd, a rannodd, ac a’n cefnogodd ar hyd y ffordd.