Diolch a chydnabyddiaeth
Rydym yn ddiolchgar iawn i nifer o bobl y mae eu mewnwelediadau a’u hadborth wedi helpu i lunio’r adroddiad hwn. Mae hyn yn cynnwys gweision cyhoeddus presennol a chyn-weision cyhoeddus, gweinidogion, academyddion, arbenigwyr yn y diwydiant, a phobl sy’n cadw llygad ar y Senedd.
Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar etifeddiaeth gyfoethog o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus digidol ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae cerrig milltir pwysig yn cynnwys:
- Creu UKGovCamp gan Jeremy Gould yn 2007, a ddaeth ag ymarferwyr digidol o bob cwr o’r sector cyhoeddus ynghyd am y tro cyntaf
- Lansio Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig (GDS) yn 2011, a helpodd i ailddiffinio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio a’u darparu
- Sefydlu GovCamp Cymru yn 2014 gan Jo Carter ac Esko Reinikainen, platfform hanfodol ar gyfer syniadau a chydweithio yng Nghymru
- Gwaith Lee Waters, Sally Meecham, Simon Renault ac Ann Kempster i sefydlu’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yng Nghymru yn 2020
Rhoddodd yr ymdrechion hyn – a’r bobl a’u harweiniodd – yr hyder, y fewnwelediad a’r ysbrydoliaeth inni gredu bod gwasanaethau cyhoeddus gwell yn bosibl.
Mae’n bwysig hefyd gydnabod y gweision cyhoeddus ymroddedig sy’n byw, yn anadlu ac yn gweithio yn y ffyrdd modern hyn bob dydd - yn aml heb gydnabyddiaeth na chefnogaeth.
Hoffem hefyd gydnabod yr ysgrifennu a’r meddwl sydd wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar yr adroddiad hwn:
- The Radical How gan Andrew Greenway a Tom Loosemore – ar sut y gall y dulliau hyn drawsnewid llywodraeth yn radical
- Cynllun ar gyfer Llywodraeth Ddigidol Fodern gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg y Deyrnas Unedig – yn amlinellu dyfodol llywodraeth ystwyth, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- System Reboot gan Lee Waters (2018) – sy’n nodi’r angen brys am drawsnewid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
- Gwaith parhaus Jennifer Pahlka a Chanolfan Niskanen – sy’n dangos sut mae’r syniadau hyn yn cefnogi capasiti digidol a diwygio yn llywodraethau taleithiau’r Unol Daleithiau
I bawb sydd wedi cyfrannu at y mudiad hwn: diolch.
Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’ch stori chi hefyd.