Ein hail ddigwyddiad TransformGov Talks yng Nghaerdydd. Dewch i glywed gan dri pherson sy’n gweithio yn y llywodraeth yng Nghymru, neu gyda hi, ac yna sesiwn holi ac ateb, rhwydweithio a pizza.
Gallwch ymuno â ni wyneb yn wyneb yn Yolk Recruitment yng Nghaerdydd, neu wylio’r cyflwyniadau ar-lein. Dewiswch eich math o docyn wrth gofrestru.
Siaradwyr
- Rachel MeesePennaeth UCD, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ar adeiladu tîm dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn sector cyhoeddus Cymru a helpu uwch arweinwyr i weld ei werth
- Andy ReganPennaeth Nesta Cymru, ar sut y gall dull profi a dysgu helpu llywodraethau i fynd i’r afael â heriau cymhleth
- Omar IdrisPennaeth Dylunio yn Perago, ar sut mae dull profi a dysgu yn helpu timau i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio gyda llai o risg