Ffordd well
Nid yw mwy a mwy o arian yn ateb
Os yw Cymru eisiau ymateb i’r her o wella gwasanaethau cyhoeddus, mae’n rhaid i ni newid sut rydym yn eu cynllunio a’u darparu.
Mae hynny’n golygu rhoi pobl yn gyntaf, mabwysiadu ffyrdd modern ac agored o weithio, gan ddefnyddio’r arferion digidol gorau i adeiladu gwasanaethau sy’n syml, yn effeithlon, ac wedi’u cynllunio o amgylch anghenion bywyd go iawn.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:
Cyn dylunio polisi neu weithredu technoleg, mae angen inni ddeall y broblem – a’r bobl sy’n cael eu heffeithio ganddi. Mae hynny’n golygu mynd i lygad y ffynnon. Yn hytrach na dibynnu ar ragdybiaethau ac arolygon, mae angen i ni: Mae hyn yn ein helpu i ganolbwyntio ar ganlyniadau, nid atebion sydd wedi’u penderfynu ymlaen llaw. Dyma sut rydym yn dylunio gwasanaethau sy’n gweithio ar draws ffiniau sefydliadol, yn lleihau cymhlethdod y gellir ei osgoi, ac yn lleihau gwallau costus. Drwy ddeall bywydau cymhleth pobl Cymru yn iawn, gallwn ddylunio gwasanaethau sy’n pontio’r cynigion tameidiog ar draws awdurdodau lleol, llywodraeth ganolog a’r GIG. Mae hyn yn osgoi gwastraffu amser ac arian yn dylunio neu’n adeiladu atebion nad ydynt yn cael eu defnyddio – neu’n waeth, yn creu problemau mwy yn y pen draw. Drwy ddylunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr, gall staff ganolbwyntio eu hymdrechion lle bydd hynny’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Nid yw trawsnewidiad yn digwydd mewn dogfennau na chynlluniau – mae’n digwydd mewn timau. Mae cyflawni digidol llwyddiannus yn dibynnu ar dimau bach, amlddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd: Y timau hyn yw’r uned gyflawni. Maent yn gweithio drwy iteru, hynny yw ailadrodd a gwella, drwy ddysgu’n gyflym, a chan addasu i newid. Maen nhw wedi’u grymuso i wneud penderfyniadau drwy gydol oes y gwasanaeth – ac yn atebol am ganlyniadau, nid dim ond allbynnau. Mae’r dull hwn yn herio’r gweithio ar wahân, o’r brig i lawr, sy’n arferol yn y sector cyhoeddus. Mae’n helpu timau i weithio’n gyflymach ac yn fwy effeithlon drwy gael gwared ar rwystrau a chreu dealltwriaeth gyffredin. Wrth i anghenion y gwasanaeth esblygu, felly hefyd y tîm. Ond mae’r buddsoddiad mewn pobl, gwybodaeth ac ymddiriedaeth yn parhau – gan gefnogi cynnydd hirdymor. Mae gwasanaethau’r llywodraeth yn gymhleth. Nid yw pobl bob amser yn ymddwyn fel y disgwylir - mae bywyd yn flêr, ac mae blaenoriaethau’n newid. Dyna pam mae dull profi a dysgu yn bwysig. Yn lle blynyddoedd o gasglu gofynion, caffael, a chreu atebion rhy fawr sy’n cyrraedd yn hwyr, sy’n mynd dros y gyllideb, neu sydd ddim yn cyrraedd o gwbl - mae timau’n dechrau’n fach. Maent yn canolbwyntio ar yr anghenion mwyaf, yn profi rhagdybiaethau peryglus, ac yn cyflawni gwelliannau mewn camau bach. Mae hyn yn lleihau costau ac ansicrwydd wrth fynd, gan ryddhau gwerth yn gyflym i’r cyhoedd. Mae’r dull hwn: Mae hyn i gyd yn meithrin ymddiriedaeth a hyder dros amser, i ddefnyddwyr a’r llywodraeth fel ei gilydd. Mae gweithio yn yr awyr agored yn golygu dangos eich gwaith wrth iddo ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys: Mae agoredrwydd yn meithrin ymddiriedaeth gyda defnyddwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni. Mae’n gwella llywodraethu, yn gwneud dibyniaethau’n weladwy, ac yn helpu i gynnal gwybodaeth ar draws timau. Mae hefyd yn creu momentwm ar gyfer ysgogi newid. Po fwyaf y gall pobl weld y stori, y mwyaf y gallant ei chefnogi a pharhau â’r gwaith. Heddiw, gall timau sefydlu seilwaith mewn eiliadau, adeiladu prototeipiau mewn munudau, a chyfuno offer profedig i greu gwasanaethau cymhleth mewn wythnosau. Ac eto yng Nghymru, rydym yn dal i ddibynnu gormod ar allanoli ac ar gwmnïau technoleg mawr o dramor, gan, yn aml, roi ein holl wasanaethau allweddol gyda dim ond un cyflenwr. Mae hynny’n beryglus: gall prisiau godi, gellir diffodd gwasanaethau heb rybudd, a bydd ein systemau pwysicaf yn dod yn fwy agored i ymosodiadau seiber difrifol. Y dewis arall yw adeiladu gyda Seilwaith Cyhoeddus Digidol modern ac offer ffynhonnell agored. Blociau adeiladu y gellir eu hailddefnyddio yw’r rhain a gynlluniwyd ar gyfer defnyddioldeb, hygyrchedd a graddfa. Er enghraifft: Mae symud o brynu i adeiladu yn gofyn am sgiliau modern fel peirianneg cwmwl, trefniadaeth seilwaith a datblygu meddalwedd. Ond mae’n talu ar ei ganfed. Mae’n rhoi mwy o reolaeth i wasanaethau cyhoeddus, yn lleihau sefyllfaoedd gwastraffus o fod yn sownd gyda darparwr, ac yn creu cyfleoedd i gyflenwyr llai, mwy ystwyth – gan gynnwys cwmnïau o Gymru – gyfrannu. Gall agor y ddarpariaeth technoleg gwasanaethau cyhoeddus chwarae rhan gref yn y broses o dyfu economi Cymru, cadw talent yng Nghymru a manteisio ar ein prifysgolion, ein clwstwr seiber cryf, a’n sector fintech bywiog. Mae adeiladu gyda Seilwaith Cyhoeddus Digidol yn helpu llywodraethau i symud yn gyflymach, parhau i wario’n lleol, ac aros yn wydn ac yn sofran wrth fodloni disgwyliadau pobl. Nid yw’n radical. Bellach, y dulliau hyn yw’r safon yn y sefydliadau mwyaf effeithiol, boed yn gyhoeddus neu’n breifat. Yn y Deyrnas Unedig, codeiddiodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) y ffyrdd hyn o weithio dros ddegawd yn ôl. Ers hynny, mae gwasanaethau mawr fel Adnewyddu Pasbort, Cofrestru i Bleidleisio, a gwneud cais am Atwrneiaeth Barhaus wedi cael eu trawsnewid gan ddefnyddio’r egwyddorion hyn. Maent wedi dod yn arfer cyffredin ledled y byd: yng Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a thu hwnt. Yng Nghymru, cyflwynodd yr adroddiad System Reboot yr achos dros ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus digidol yn 2018. Roedd yn galw am: Arweiniodd System Reboot at greu’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Safon Gwasanaeth Digidol Cymru. Mae cynnydd wedi’i wneud. Ond nid yw graddfa a chyflymder y newid yn agos at yr hyn sydd ei angen, o hyd. Er bod System Reboot a CDPS wedi gosod sylfeini cryf, mae rhwystrau diwylliannol a systemig mawr wedi arafu newid gwirioneddol. Mae llawer o sefydliadau’n defnyddio’r iaith gywir, ond nid yw’r newidiadau dyfnach mewn meddylfryd ac arfer wedi digwydd. Mae hyn yn golygu ein bod yn sownd gydag atebion tymor byr yn hytrach na thrawsnewid tymor hir. Credwn y dylai llywodraeth nesaf Cymru wneud symudiad clir oddi wrth raglenni a phrosiectau tuag at dimau a gwasanaethau. Mae hyn yn gyfle i:1. Dechrau gyda phobl, nid datrysiadau
2. Trefnu o amgylch timau amlddisgyblaethol
3. Profi, dysgu ac addasu
4. Gweithio yn agored
5. Perchenogi ac adeiladu’r seilwaith digidol
Nid yw hyn yn newydd