Dyfodol gwell i wasanaethau cyhoeddus

Casgliad o arweinwyr profiadol ym maes digidol a dylunio yw Trawsnewid Cymru sy’n credu mewn ffordd well o weithio: ffordd agored, fodern gydag ymddiriedaeth yn sail iddi.

Rydyn ni wedi gweld beth sy’n gweithio. Rydym wedi helpu i arwain newid. Ac rydym yn gwybod mai nawr yw’r amser i weithredu.

Y blogiau diweddaraf

Prosiectau --> Cenadaethau
Nodyn

Model cenhadaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru

Allbynnau --> Canlyniadau
Nodyn

O allbynnau i ganlyniadau: ailddiffinio llwyddiant y sector cyhoeddus

Cylchlythyr
Chwefror / February 2026

#6 - 📝 Beth mae cyflawni digidol modern yng Nghymru wir ei angen - crynodeb newyddion digidol Chwefror

Darllenwch ein hadroddiad

Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru fodern

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu strategaeth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus Cymru, nid yn unig i ddiwallu gofynion brys y presennol ond i gyflawni gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gallwn sicrhau Cymru ffyniannus, wydn, sy’n iachach ac yn fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Darllenwch ein hadroddiad

Ffordd well

Os yw Cymru eisiau ymateb i’r her o wella gwasanaethau cyhoeddus, mae’n rhaid i ni newid sut rydym yn eu cynllunio a’u darparu. Mae hynny’n golygu rhoi pobl yn gyntaf, mabwysiadu ffyrdd modern ac agored o weithio, gan ddefnyddio’r arferion digidol gorau i adeiladu gwasanaethau sy’n syml, yn effeithlon, ac wedi’u cynllunio o amgylch anghenion bywyd go iawn.

Sut i gyrraedd yno

Mae gan Gymru y potensial i fod ar flaen y gad o ran gwasanaethau cyhoeddus modern, sy’n canolbwyntio ar bobl. Ond i gyrraedd yno rhaid inni weithredu’n bendant mewn tri phrif faes: arweinyddiaeth, sgiliau a chyllido.

Galwad i weithredu

Ni all Cymru fforddio syrthio ymhellach ar ei hôl hi. Mae hyn yn fwy na diwygio digidol. Dyma sut rydym yn adeiladu Cymru fwy gwydn ac ymatebol – un sy’n gweithio i bawb, am genedlaethau i ddod. Mae’r dewis yn glir. Aros yn sownd. Neu arwain y ffordd.