Rydym wedi osgoi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn yr adroddiad hwn - a hynny’n fwriadol.
Nid un dechnoleg yw AI, nac ateb syml i bopeth. Daw law yn llaw ag addewid, ond hefyd risg. Mae eisoes yn helpu meddygon i wneud diagnosis o ganser yn fwy effeithiol. Ond gall hefyd ategu rhagfarn a thuedd, gorganoli pŵer, ac achosi niwed go iawn os caiff ei ddefnyddio’n ddiofal.
Dyna pam mae’r dulliau yn yr adroddiad hwn yn bwysig.
Er mwyn defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffyrdd sy’n fuddiol i Gymru, bydd angen i’r llywodraeth:
- roi pobl wrth galon y broses
- grymuso timau amlddisgyblaethol
- profi, dysgu ac addasu
- gweithio yn agored
- dylunio ac adeiladu’r seilwaith digidol
Nid arferion cyflawni da yn unig yw’r rhain. Maent yn sylfeini hanfodol ar gyfer archwilio technolegau newydd yn gyfrifol, a llunio dyfodol gwell i bawb.