Y Diweddaraf

Y Diweddaraf: Diolch am gefnogi’r ymgyrch ariannu torfol

Ym mis Rhagfyr fe wnaethon ni gau ein tudalen ariannu torfol, a sefydlwyd i dalu costau i sicrhau bod ein hadroddiad, Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru Fodern yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf angen ei weld.

Ym mis Rhagfyr fe wnaethon ni gau ein tudalen ariannu torfol, a sefydlwyd i dalu costau i sicrhau bod ein hadroddiad, Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru Fodern yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf angen ei weld.

Gyda’ch cefnogaeth, rydym wedi argraffu 150 copi o’r llyfr a’u hanfon at ymgeiswyr gwleidyddol, Aelodau’r Senedd, uwch arweinwyr mewn llywodraeth, ac ymgyrchwyr cymunedol.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu baner, cardiau a sticeri i helpu i ledaenu’r neges a chadw’r sgwrs i fynd.

Codwyd £1,548 gan 32 o roddwyr. Mae gennym £450 wedi’i neilltuo ar gyfer costau marchnata a dosbarthu pellach.

Yn syml iawn: ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl hebddoch chi.

Diolch yn fawr iawn i bob unigolyn a roddodd, a rannodd, ac a’n cefnogodd ar hyd y ffordd.

Cofnodion cysylltiedig

Darllenwch y blog
Nodyn

Annwyl arweinwyr: ry’n ni'n barod i wneud y gwaith. Ydych chi?

Yn GovCamp Cymru, daeth pobl sy’n gweithio ym maes dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr at ei gilydd i drafod beth sy’n eu rhwystro rhag gwneud eu gwaith gorau. Daeth her i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i’r amlwg.

Nodyn

Pam mae angen i GIG Cymru ailfeddwl trawsnewid digidol

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Archwilio Cymru gyfres o archwiliadau yn edrych ar ddarpariaeth ddigidol ar draws byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru. O Gaerdydd a’r Fro i Fae Abertawe, ac mewn ymddiriedolaethau arbenigol fel Felindre a Gwasanaeth Ambiwlans …