Yr wythnos hon, fe wnaeth podlediad For Wales, See Wales gyfweld â’r Prif Weinidog, Eluned Morgan. Yn y cyfweliad, mynegodd ei rhwystredigaeth ynghylch cyflymder trawsnewid digidol yng Nghymru.

Rydym yn cytuno.

Fel y nodwyd yn ein hadroddiad y llynedd, er bod technoleg wedi newid yn sylweddol dros 25 mlynedd o ddatganoli, nid yw’r ffordd rydym yn ei ddarparu yng Nghymru wedi cadw i fyny.

Rydym yn sefydlu rhaglenni mawr sy’n treulio blynyddoedd yn datblygu achosion busnes cyn cyrraedd y cam cyflenwi. Rydym yn creu byrddau rhaglen a grwpiau cynghori di-ri sy’n trafod yn hytrach na chyflenwi. Rydym yn troi at atebion technoleg “hudol” sy’n addo datrys problemau, yn hytrach na meddwl am y canlyniadau rydym yn ceisio eu cyflawni. Nid ydym yn ymddiried mewn timau i wneud penderfyniadau a chyflenwi ar gyflymder.

Nid yw’r hen ffyrdd hyn yn gweithio. O ganlyniad, mae sector cyhoeddus Cymru ymhell ar ei hôl hi o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU ac yn rhyngwladol.

Fodd bynnag, nid ydym yn cytuno mai cyflenwi technoleg gan y wladwriaeth yw’r broblem.

Cyflenwi technoleg gan y sector cyhoeddus yw’r arfer y tu allan i Gymru

Y tu allan i Gymru, mae’n arferol i’r sector cyhoeddus arwain trawsnewid digidol.

Datblygwyd GOV.UK 14 mlynedd yn ôl gan weision sifil yn gweithio mewn ffyrdd modern, gyda thechnoleg fodern, ac yn gweithio’n agored.

Yn 2014, datblygodd tîm mewnol o weision sifi yn y DVLA (yn Abertawe) eu gwasanaethau treth cerbydau newydd mewn dim ond 12 wythnos. Yn ddiweddarach, yn 2017, daethpwyd â’u holl dimau technoleg i mewn i’r sefydliad. Mae timau cyflenwi digidol hefyd yn Nhŷ’r Cwmnïau (yng Nghaerdydd) ac yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (yng Nghasnewydd).

Heddiw, mae’r GIG yn Lloegr yn datblygu gwasanaethau digidol newydd sy’n helpu i atal salwch, gan weithio’n agored ar yr un pryd. Mae Strategaeth Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban yn ymrwymo i adeiladu timau digidol hynod effeithiol.

Mae unedau digidol mewn nifer o lywodraethau ledled y byd yn gweithio i drawsnewid gwasanaethau’r llywodraeth yn llwyddiannus – o’r Almaen i Ganada. Mae hyd yn oed gwledydd bach fel Barbados yn adeiladu gallu trawsnewid digidol mewnol.

Yn y pen draw, os nad yw’r sector cyhoeddus yn berchen ar ei allu digidol ei hun, ni all fod yn berchen ar ei ganlyniadau. Mae hyn yn fater o sofraniaeth ddigidol - sicrhau bod gan Gymru’r gallu i lunio ei dyfodol ei hun, yn hytrach na bod yn deithiwr goddefol sy’n dibynnu ar gyflenwyr allanol.

Nid yw Cymru’n rhy fach i feddu ar y sgiliau hyn.

Yn aml awgrymwyd bod Cymru, fel gwlad, yn rhy fach i feddu ar y sgiliau mewnol hyn. Ond mae gennym eisoes ystod ardderchog o dalent ddigidol a thechnolegol yma.

Mae’r sector digidol a thechnoleg yn creu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda, ac yn cyfrannu at dwf ein heconomi yng Nghymru.

Mae gennym ddiwydiant fintech a seiberddiogelwch ffyniannus. Mae gennym ganolfannau academaidd blaenllaw fel yr Uned Technolegau Iaith ym Mangor, canolfannau arloesi fel M-SParc ar Ynys Môn, a’r Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol yn Abertawe.

Mae adrannau mawr o lywodraeth y DU, gyda thimau digidol arbenigol, wedi’u lleoli yma.

Mae gennym bocedi bach o arfer da mewn sefydliadau fel CNC, ACC a Chwaraeon Cymru. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dechrau datblygu ei alluoedd dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Ac mae gennym y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a fydd cyn bo hir wedi’i lleoli yng nghanol y gwasanaeth sifil ei hun.

Y cwestiwn yw: beth sy’n dal y sector cyhoeddus ddatganoledig yng Nghymru yn ôl?

Rhaid i ni wneud yn well

Mae gan Gymru’r potensial i arwain gyda gwasanaethau cyhoeddus modern sy’n canolbwyntio ar bobl.

Ond dim ond drwy arweinyddiaeth wleidyddol feiddgar, sy’n barod i newid y ffordd mae’r sector cyhoeddus yn gweithio, y gellir cyflawni hynny.

Er mwyn llwyddo i drawsnewid yn ddigidol, mae angen i’r Prif Weinidog a Llywodraeth nesaf Cymru ryddhau’r dalent sydd gennym eisoes, a rhoi’r lle a’r awdurdod iddynt gyflawni.

Mae ein hadroddiad yn nodi sut i wneud hynny, drwy ddull gwell o gyflenwi ac argymhellion clir ar yr arweinyddiaeth, y sgiliau a’r cyllid sydd eu hangen.

Nid yw hyn yn radical. Yr unig beth sydd ei angen yw’r ewyllys i’w rhoi ar waith.