Helo bawb!
Mae etholiad y Senedd yn nodi dechrau pennod newydd i Gymru.
Gall newid deimlo’n ansicr weithiau, ond mae hefyd yn creu cyfle i ailfeddwl sut mae llywodraeth yn gweithio a beth all gwasanaethau cyhoeddus fod.
Gyda Plaid Cymru bellach yn arwain y llywodraeth ac yn cyflwyno cynllun 100 diwrnod cyntaf, mae cyfle i symud yn gyflymach, gweithio’n wahanol, a dechrau ailadeiladu ymddiriedaeth drwy welliannau amlwg y gall pobl eu teimlo yn eu bywydau bob dydd.
Mae’n braf gweld plaid yn cyflwyno cynllun 100 diwrnod, ac rydym wedi myfyrio ar hyn yn ein blog: Pam mae 100 diwrnod yn ddigon i brofi ffordd wahanol o lywodraethu. Mae’r erthygl yn edrych ar beth all Llywodraeth Cymru ei ddysgu gan sefydliadau sydd wedi sicrhau newid ystyrlon yn gyflym drwy ddechrau’n fach, profi syniadau’n gynnar, a chanolbwyntio’n ddi-baid ar anghenion pobl.
Yn gysylltiedig â hyn, rhannodd aelod o Trawsnewid Cymru, Dafydd Vaughan, ei brofiadau o ailadeiladu gwasanaeth treth ceir ar-lein y DU mewn dim ond deng wythnos yn DVLA. Mae’n enghraifft bwerus o’r hyn sy’n gallu digwydd pan mae timau’n cael eu hymddiried i weithio’n agored, yn ailadroddol ac ar gyflymder — a pham mae momentwm yn bwysicach na pherffeithrwydd.
Sut i gyflawni newid sy’n para
Ein cyfres blog newydd 5 rhan am lywodraeth well i Gymru, a sut i gyflawni newid sy’n para.
Yn rhy aml, mae sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio ar beth ddylai llywodraeth ei ddarparu yn unig: iechyd, tai, trafnidiaeth, gofal cymdeithasol. Ond llawer llai o sylw sy’n cael ei roi i sut mae newid yn digwydd yn ymarferol.
Mae ein blog cyntaf yn gofyn a all Cymru fforddio hen ffyrdd o weithio o hyd — o dimau mewn seilos a gwaith dyblyg i gyflawni araf a datrysiadau drud dros dro.
Newyddion digidol y mis yng Nghymru
Mae Cymru’n cyflwyno system cofnodion mamolaeth ddigidol genedlaethol ar draws y GIG
Mae Nation.Cymru yn adrodd bod Cymru wedi dod y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno un system cofnodion mamolaeth ddigidol ar draws pob bwrdd iechyd. Mae’r platfform newydd yn disodli systemau lleol tameidiog a nodiadau papur gyda gwasanaeth digidol ar y cyd i rieni a chlinigwyr. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn dangos sut gall gwasanaethau digidol cydgysylltiedig leihau dyblygu, gwella mynediad at wybodaeth, a chreu profiad gwell i staff a’r cyhoedd.
Mae’r Llyfr Magenta newydd gael atodiad “Profi a dysgu”
Mae Jo Carter o Trawsnewid Cymru yn egluro pam y gallai diweddariad tawel i lyfr Magenta y Trysorlys olygu newid mawr yn y ffordd mae llywodraeth yn dylunio ac yn gwerthuso polisi a gwasanaethau. Mae’r canllawiau “Profi a Dysgu” newydd yn annog timau amlddisgyblaethol, arbrofi cyflym, a dysgu drwy gyflawni yn hytrach na misoedd o gynllunio ymlaen llaw. Mae’n bwysig oherwydd ei fod yn rhoi cefnogaeth ffurfiol i’r ffyrdd agored, defnyddiwr-ganolog o weithio y mae llawer o dimau yng Nghymru wedi bod yn eu hyrwyddo ers blynyddoedd.
Cymunedau ymarfer newydd ar gyfer digidol a data mewn gofal cymdeithasol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio cymunedau ymarfer newydd ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda digidol a data ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nod y cymunedau yw helpu pobl i rannu gwybodaeth, magu hyder, a chysylltu ar draws sefydliadau a disgyblaethau. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod creu mannau i ymarferwyr ddysgu gyda’i gilydd yn agored yn hanfodol ar gyfer adeiladu’r sgiliau, y perthnasoedd a’r diwylliant sydd eu hangen i wella gwasanaethau cyhoeddus.
Potiau cimychiaid, cymhlethdod a dechrau’n fach yn y ffordd iawn
Mae Richard Pope yn myfyrio ar pam mae gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn methu pan mae timau’n gorsymleiddio problemau cymhleth drwy “use-cases” cul. Gan dynnu ar enghreifftiau fel Universal Credit a Single Patient Record y GIG, mae’n dadlau y dylai gwasanaethau gofleidio cymhlethdod yn gynnar a graddio’n raddol drwy ddaearyddiaeth neu gyflwyniad rheoledig. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn herio rhagdybiaeth gyffredin mewn trawsnewid digidol — bod lleihau cymhlethdod ar y dechrau bob amser yn lleihau risg.
Dyluniad cyson ar gyfer gwasanaethau digidol gwell
Mae Samantha o dîm Digidol Cyfoth Naturiol Cymru yn rhannu sut mae CNC yn defnyddio patrymau tudalennau profedig wedi’u hysbrydoli gan GOV.UK, ochr yn ochr â dysgu gan Lywodraeth y DU a chymuned Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, i helpu defnyddwyr i symud rhwng gwasanaethau yn haws a chwblhau tasgau gyda llai o ymdrech.
Digwyddiadau i ddod
Etholiad y Senedd 2026: Beth ddigwyddodd, a Pham? - 12pm ddydd Mawrth 2 Mehefin, ar-lein
Gyda data newydd gan YouGov o’r cyfnod cyn- ac Ă´l-etholiad mae Dr Jac Larner ac yr Athro Richard Wyn Jones o’r Canolfan Llywodraethiant Cymru yn eich gwahodd i ymuno â’r sesiwn briffio Ă´l-etholiad ar-lein hon lle bydden nhw’n archwilio’r ffactorau a greodd y canlyniadau seismig etholiad hyn.
Cyfarfod ymddygiad defnyddwyr ac AI mis Mehefin — 12pm ddydd Llun 15 Mehefin, ar-lein
Bydd Giorgio Di Tunno a chydweithwyr yn rhannu sut maent wedi bod yn adnabod a lleihau camwybodaeth AI i fusnesau yn yr Adran Busnes a Masnach (DBT).
Cyfarfod UX Wales mis Mehefin — 6pm ddydd Iau 25 Mehefin yng Nghaerdydd
Siaradwyr i’w cyhoeddi.