Polisi preifatrwydd y wefan

Pwy ydym ni

Casgliad o arbenigwyr ym maes trawsnewid digidol a dylunio yw Trawsnewid Cymru sydd â degawdau o brofiad o arwain newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cawn ein harwain gan Ann Kempster, Dafydd Vaughan, Jo Carter a Nia Campbell.

Dyma’n gwefan: https://www.transform.wales a https://www.transform.cymru


Ein polisi

Rydym yn addo trin â pharch wybodaeth bersonol pawb rydym yn dod i gysylltiad â nhw.  Rydym am i bethau fod yn syml ac yn glir.

Mae’r Polisi hwn yn esbonio sut rydym am wneud hynny – pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth, sut rydym yn ei defnyddio, y sefyllfaoedd pan all pobl eraill weld yr wybodaeth honno neu ei defnyddio, a sut rydym yn cadw’r wybodaeth yn ddiogel.

Ond os nad ydych chi eisiau darllen drwy’r holl fanylion nawr, gallwn ni fod yn glir o’r cychwyn cyntaf:

Nid ydym yn gwerthu, rhentu na chyfnewid rhestrau e-bost gydag unrhyw un arall.

Pwy bynnag ydych chi, ein bwriad yw defnyddio eich gwybodaeth i wneud i bethau weithio’n esmwyth i chi yn ystod eich profiad o ddelio â ni. Os nad dyna sut fydd pethau i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â ni i ddweud wrthym. Ysgrifennu atom sydd orau, a gallwch wneud hynny drwy e-bostio’r cyfeiriad uchod.

Rydym yn adolygu’r Polisi hwn yn rheolaidd, ac efallai y byddwn yn ei ddiwygio dros amser. Edrychwch yma eto o bryd i’w gilydd i wneud yn siŵr bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf.

Ein dull cyffredinol o ymdrin â data personol

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a sicrhau eich hawliau cyfreithiol o ran pennu sut y cawn ddefnyddio eich data personol.

Dim ond pan fydd angen angen inni wneud y canlynol y byddwn yn casglu a defnyddio data personol:

  • pan fyddwch wedi gofyn i ni wneud rhywbeth (er enghraifft, anfon copi o’n hadroddiad atoch, neu anfon ein cylchlythyr atoch);

  • er mwyn ymateb i ymholiadau neu gwynion;

  • er mwyn datblygu a rheoli ein perthynas â phobl;

  • er mwyn casglu adborth er mwyn gwella ein gwasanaeth;

  • er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.

Rydym yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol, ac nad yw’n fwy nag sydd ei hangen arnom.