Arweinyddiaeth glir, feiddgar ac atebol

Mae trawsnewid gwasanaeth cyhoeddus yn gofyn am arweinyddiaeth glir a beiddgar.

Arweinyddiaeth sy’n deall maint y newid sydd ei angen arnom, sy’n barod i herio - a chael ei herio. Arweinyddiaeth gyda’r weledigaeth, yr awdurdod, a’r dyfalbarhad i sbarduno newid parhaol.

Ar hyn o bryd, mae arweinyddiaeth yng Nghymru yn dameidiog. Mae pethau wedi’u rhannu rhwng nifer o weinidogion, tri Phrif Swyddog Digidol, a dau gorff ‘cyflenwi’ – y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).

Mae gan bob un flaenoriaethau, dulliau a strategaethau ar wahân.

Nid oes un ffigur atebol yn gosod cyfeiriad, yn hyrwyddo arfer da nac yn uno’r system y tu ôl i weledigaeth a rennir. Er enghraifft, yn GIG Cymru, ni all y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol reoli na gosod cyfeiriad y ddarpariaeth ddigidol yn yr Adran Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol na byrddau iechyd unigol. Mae gan bob un ei strategaeth ddigidol a’i fframweithiau atebolrwydd ei hun.

Ar ben hyn, mae gan Gymru nifer sylweddol o fyrddau, pwyllgorau a fforymau llywodraethu. Er mai’r bwriad yw goruchwylio, maent yn aml yn troi’n siopau siarad. Maent yn amsugno amser ac adnoddau gwerthfawr heb wir gyflymu’r ddarpariaeth na meithrin ffyrdd newydd o feddwl, gan adlewyrchu diffyg dychymyg ehangach wrth fynd i’r afael â materion systemig.

Dylai llywodraeth nesaf Cymru:

A. Penodi Gweinidog dros Ddigidol

Mae angen hyrwyddwr ar y lefel uchaf i sicrhau trawsnewid. Rhywun a all eirioli dros ddull modern, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws y llywodraeth.

Dylai’r Gweinidog hwn:

  • fod yn gyfrifol am strategaeth ddigidol genedlaethol feiddgar
  • arwain newid diwylliannol yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u cyflawni
  • aros yn y swydd am dymor llawn y Senedd er mwyn sicrhau cysondeb

B. Sefydlu Prif Swyddog Digidol cenedlaethol ac Uned Cyflawni Digidol i Gymru

Mae angen mwy nag un hyrwyddwr ar Gymru – mae angen tîm ymroddedig o arbenigwyr, dan arweiniad Prif Swyddog Digidol, a all gynrychioli a thrawsnewid y gwasanaeth cyhoeddus cyfan: Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff hyd braich, a’r GIG.

Dylai’r Prif Swyddog Digidol cenedlaethol i Gymru:

  • fod ar lefel Cyfarwyddwr Cyffredinol, gan adrodd i’r Ysgrifennydd Parhaol a’r Gweinidog dros Ddigidol
  • bod yn arweinydd gweladwy a chydnabyddedig ym maes arloesi o ran gwasanaethau cyhoeddus digidol, a hynny’n genedlaethol ac yn fyd-eang
  • meddu ar hanes llwyddiannus ym maes gwasanaethau digidol ar raddfa fawr (nid TG) a dealltwriaeth ddofn o ffyrdd gweithio modern, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • cael y grym i arwain trawsnewid ar draws y system – nid yn unig dylanwadu, ond gyrru a chyflawni newid yn weithredol
  • bod yn Bennaeth Galwedigaeth ar gyfer digidol a thechnoleg ar draws y sector cyhoeddus cyfan

Dylai’r Uned Cyflawni Ddigidol weithredu fel canolfan arweinyddiaeth weladwy sy’n meithrin hyder, yn newid meddyliau, ac yn ysbrydoli timau ledled Cymru.

Gyda’i gilydd, dylent ddarparu portffolio o wasanaethau effaith uchel i ddangos sut mae trawsnewid yn symud o drafodaeth i ganlyniadau pendant. Dylent gael mandad i ddod ag arweinyddiaeth ar draws sefydliadau ynghyd i ailgynllunio gwasanaethau trawsbynciol a chyflawni gwelliannau.

Dylent fod yn gyfrifol am adeiladu a chyflawni’r seilwaith cyhoeddus digidol sy’n cefnogi llywodraeth fodern. Yn y ddwy flynedd gyntaf dylent drawsnewid 3-5 o wasanaethau ar draws y llywodraeth, gan gynnwys:

  • rheoli apwyntiadau ac atgofion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
  • cofrestru, talu a rheoli’r dreth gyngor
  • dod â budd-daliadau, hawliadau a thaliadau cymorth ynghyd ledled Cymru

Nid creu corff hyd braich arall yw hyn. Ond yn hytrach sefydlu uned yng nghanol y llywodraeth gyda’r awdurdod, y sgiliau a’r mandad i arwain newid ar draws y system gyfan.


C. Arwain trwy esiampl

Rhaid i Lywodraeth Cymru fodelu’r dull y mae am i eraill ei fabwysiadu. Mae hyn yn golygu:

  • grymuso timau i weithio yn agored a rhannu dysgu
  • dathlu cyflawniad wrth fod yn onest am heriau
  • cofleidio diwylliant profi a dysgu a dangos gwaith sydd ar y gweill

Mae’r math hwn o arweinyddiaeth yn helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, ac yn dangos beth yw ‘da’ yn ymarferol.