Mae Jo yn ddylunydd gwasanaethau angerddol gyda ffocws cryf ar lywodraeth, tai cymdeithasol, a’r sector elusennol. Hi yw prif drefnydd ‘anghynhadledd’ GovCamp Cymru.
Ar ôl degawd mewn llywodraeth leol, sefydlodd Jo gwmni Service Works i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy ddylunio. Mae hi’n hyfforddwr hyfforddedig, yn Ddylunydd Gwasanaeth Meistr achrededig, ac mae hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd, hyfforddwr a hwylusydd.
Dros y blynyddoedd, mae Jo wedi gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Archwilio Cymru, y Rheoleiddiwr Pensiynau, a Llywodraeth Cymru.
Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i merched sydd yn eu harddegau, ac yn ei hamser hamdden fe welwch chi hi’n chwarae’r drymiau ac yn beicio, er yn anaml ar yr un pryd!