Ym mhob siambr gyngor ac ym mhob ystafell fwrdd mewn byrddau iechyd ledled Cymru, mae’r pwysau’n cynyddu. O’r Senedd i San Steffan, rydym yn cael ein llethuâ chynlluniau AI, grwpiau llywio a phrosiectau peilot.
Mae’r naratif yn demtasiwn: bod AI yn “flwch hud” a fydd yn datrys ein problemau effeithlonrwydd ar ei ben ei hun, ac yn pontio’r bwlch cynyddol rhwng y galw sy’n tyfu a chyllidebau sy’n lleihau.
Ond rydym wedi gweld hyn o’r blaen. Yn 2010, y “blwch hud” oedd y Cwmwl. Yn 2015, Data Mawr. Bob tro, mae’r cylch cyffro hwn yn addo ateb hudol, a bob tro, rydym yn pendroni pam nad yw’r arbedion a addawyd erioed yn gwireddu.
Y gwirionedd caled i arweinwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yw na fyddwch yn arbed amser na chost sylweddol drwy “droi ymlaen” Microsoft Copilot neu brynu teclyn AI sgleiniog newydd.
Fel y dywedon yn ein hadroddiad, nid offer gwell sydd ei angen arnom yn unig, ond ffyrdd gwell o weithio. Mae angen rhoi’r gorau i chwilio am atebion hud.
Rydym wedi amlinellu pum cam ymarferol y dylai pob arweinydd sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn eu cymryd eleni, er mwyn symud y tu hwnt i’r sŵn a darparu gwerth go iawn i bobl Cymru.
1. Datgelu’r “blwch hud”
Y peth cyntaf y mae’n rhaid i ni ei wneud yw dad-ddirgelu’r derminoleg. Nid un dechnoleg chwyldroadol sengl yw AI; mae’n flwch offer. Mae rhai offer, fel Dysgu Peiriant, wedi bod yn datblygu’n dawel ers blynyddoedd, gan helpu clinigwyr y GIG i ganfod canserau’n gynharach ac i gyflymu diagnosis. Mae eraill, fel AI Cynhyrchiol ac “asiantau”, yn fwy newydd ac yn dod â risgiau gwahanol.
Fel arweinydd, nid eich rôl yw bod yn arbenigwr. Ond rhaid i chi allu gwahaniaethu rhwng cyffro a’r hyn sy’n wirioneddol ddefnyddiol. Os yw tîm mewnol neu werthwr yn dweud wrthych y bydd teclyn yn “datrys” mater polisi cymhleth, gofynnwch iddynt ba offer yn y blwch maent yn eu defnyddio, a pham. Os na allant esbonio’r mecanwaith, maent yn gwerthu hud i chi, nid ateb.
2. Buddsoddi mewn hyfforddiant
Er mwyn llywio’r dirwedd gymhleth hon, rhaid inni fuddsoddi yn ein pobl. Nid yw hyn yn golygu hyfforddiant sgiliau AI generig, er mwyn “ticio bocs”. Nid yw cyrsiau o werth isel, sydd yno i ddangos gweithgarwch yn hytrach nag adeiladu dealltwriaeth, yn newid llawer ac yn cyflawni llai fyth.
Buddsoddwch mewn hyfforddiant ymarferol i’ch timau arwain a’ch staff.
Mae angen i arweinwyr feddu ar ddigon o ddealltwriaeth ymarferol i ddeall sut mae’r offer hyn yn ymddwyn mewn gwirionedd: sut i ysgrifennu prompts da, sut i brofi a dilysu gwybodaeth a gynhyrchir gan AI, a ble mae’r terfynau a’r risgiau.
Os nad yw tîm gweithredol yn hyderus yn defnyddio’r offer hyn eu hunain, ni allant eu llywodraethu’n gredadwy, gosod ffiniau synhwyrol, na harwain mabwysiadu cyfrifol.
3. Nodi pwyntiau poen ac aneffeithlonrwydd go iawn
Mae AI ar ei fwyaf effeithiol pan gaiff ei gymhwyso i bwyntiau ffrithiant penodol sy’n cael eu deall yn dda.
Ni ddylid ei drin fel ateb sy’n chwilio am broblem.
Dechreuwch gyda’r bobl rydych yn eu gwasanaethu a’r cyfyngiadau y maent yn eu hwynebu. Rhaid i’r cwestiwn cyntaf fod: “Pa broblem ydym yn ceisio ei datrys?” – nid “Ble allem ni ddefnyddio AI?”
Mae angen i ni gyflogi ymchwilwyr defnyddwyr a dylunwyr gwasanaeth i fapio taith gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd, er mwyn deall anghenion a nodau go iawn. Eu rôl yw canfod y “pydredd” mewn prosesau presennol – yr ailadrodd, y trosglwyddiadau diangen, a’r “galw methiant” (y galw sy’n cael ei greu pan nad ydym yn gwneud rhywbeth yn iawn y tro cyntaf i ddinesydd).
Dyma le gallwn fanteisio ar y syniad o “Offer Bach Diflas”. Yn aml, rydym yn gwastraffu amser yn ceisio adeiladu llwyfannau cenedlaethol enfawr, pan mai’r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw atebion bach, awtomataidd ar gyfer tasgau llaw ailadroddus.
Unwaith y byddwch yn gwybod ble mae’r boen, gallwch benderfynu a yw AI yn offeryn priodol i’w drwsio. Fel y dywedon ni o’r blaen: dechrau gyda phobl, nid atebion, yw’r ffordd o ddylunio gwasanaethau sy’n gweithio go iawn.
4. Creu mannau diogel i arbrofi
Mae ofn “cael pethau’n anghywir” yn y sector cyhoeddus yn aml yn arwain at ddiffyg gweithredu. I wrthsefyll hyn, rhaid adeiladu mannau diogel i arbrofi.
Y ffordd orau o ddeall technoleg yw mynd ati’n ymarferol mewn amgylchedd rheoledig. Mae gan yr offer hwn risgiau a chanlyniadau anfwriadol posibl. Mae angen llefydd diogel i brofi.
Fel arweinydd, eich rôl yw gostwng y rhwystrau mynediad drwy:
- greu “blychau tywod” technegol lle mae data’n cael ei ddiogelu ond mae arbrofi’n cael ei annog
- ei gwneud hi’n hawdd ac yn gyflym prynu nifer bach o drwyddedau i brofi offer newydd yn ailadroddol
- mabwysiadu dull “profi, dysgu ac addasu” gyda phrofiadau bach a dolenni adborth cyflym
- adeiladu gallu technegol mewnol sy’n gallu cysylltu offer gyda’i gilydd i greu’r Offer Bach Diflas hynny
- dathlu pan fo angen rhoi’r gorau i rywbeth am nad yw’n gweithio mwyach, fel y gwnaeth i.AI gyda’i declyn Redbox ar gyfer gweision sifil
Mae hyn yn lleihau costau ac ansicrwydd, wrth ryddhau gwerth i’r cyhoedd yn gyflym.
5. Gweithio’n agored
Yn olaf, rhaid inni wrthsefyll yr awydd i weithio mewn seilos. Mae’r heriau sy’n wynebu cyngor yng Ngwynedd yn debygol iawn o fod yn debyg i’r rhai ym Mhowys neu Fynwy. Mae’r hyn y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ei ddysgu yn debygol o fod yn ddefnyddiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae gweithio’n agored – rhannu diweddariadau rheolaidd, prototeipiau cynnar, a bod yn onest am yr hyn nad yw’n gweithio – yn hanfodol. Pan fyddwn yn rhannu ein profiadau, ein meddwl a’n prosesau, rydym yn codi’r safon ar y cyd ar draws sector cyhoeddus Cymru gyfan. Mae’n ein hatal rhag gwneud yr un camgymeriadau costus ddwywaith ac yn ein galluogi i raddio llwyddiannau ledled y wlad.
Nid yw AI yn ateb gwyrthiol. Mae’n set o offer sydd, pan gânt eu cymhwyso i broblemau sy’n cael eu deall yn dda gan bobl hyfforddedig, yn gallu gwneud pethau rhyfeddol.
Drwy ganolbwyntio ar y pum cam hyn, gallwn symud y tu hwnt i “addewid gwag” atebion cyflym a dechrau adeiladu gwasanaethau cyhoeddus modern, canolbwyntiedig ar bobl, y mae Cymru’n eu haeddu.