Gwireddu hyn: Cyflwyno Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol newydd

Newid radical i’r ffordd rydym yn darparu gofal a chymorth i bobl yng Nghymru - dyma un o heriau pennaf llywodraeth nesaf Cymru. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd rhagweledig o 10% a yng ngwariant gofal cymdeithasol awdurdodau lleol dim ond yn 2025, mae’r pwysau ar y gymysgedd bresennol o wasanaethau awdurdodau lleol a’r GIG eisoes yn ddifrifol iawn.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i greu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol dros y degawd nesaf, a fydd yn gweithredu’n llawn o 2029 ymlaen. Ond mae perygl i bethau newid wrth inni weithio ar gynllun anhyblyg, hirdymor. Ffordd well fyddai cyflymu’r ddarpariaeth drwy gyfuno bwriad gwleidyddol clir â phrofi, dysgu a diwygio ymarferol.

Y 100 diwrnod cyntaf

Yn ystod y misoedd cyntaf, dylai’r llywodraeth:

  • Gyhoeddi ‘Seren y Gogledd’ glir – datganiad gwleidyddol sy’n nodi canlyniadau ac egwyddorion ar gyfer diwygio, gan adlewyrchu’r brys a sicrhau atebolrwydd.
  • Dod â thîm amlddisgyblaethol o 12–15 o bobl ynghyd o bob rhan o’r llywodraeth, awdurdodau lleol, y GIG a darparwyr gofal cymdeithasol, wedi’u hategu gan arbenigwyr dylunio gwasanaethau, ymchwil defnyddwyr a thechnoleg. Yn hollbwysig, rhaid i’r tîm gynnwys pobl sydd â gwybodaeth rheng flaen ddofn am ddarparu gofal.
  • Dechrau gyda defnyddwyr, nid datrysiadau, gan fapio teithiau o’r dechrau i’r diwedd drwy’r system gan ddefnyddio tystiolaeth bresennol gan Archwilio Cymru, y Swyddfa Gofal a Chymorth Genedlaethol, a’r grŵp arbenigol gwreiddiol.
  • Lansio arbrofion bach, cyfyngedig mewn un neu ddau o ardaloedd awdurdod lleol neu fwrdd iechyd. Gallai enghreifftiau o ragdybiaethau gynnwys:
    • Sut gellir rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gyflymach?
    • Sut gall staff wneud ymweliadau cartref yn fwy effeithlon?
    • Sut gellir symleiddio trosglwyddo rhwng timau gofal cymdeithasol?
    • Sut gall pobl ddilyn a rheoli eu gofal yn well?
  • Gweithio yn agored, cyhoeddi diweddariadau bob wythnos neu bob pythefnos, cynnal briffiau misol gyda gweinidogion, arbenigwyr a’r cyhoedd, a bod yn onest ynglŷn ag ansicrwydd a gwersi a ddysgwyd.

Erbyn diwedd y cyfnod 100 diwrnod, dylai’r tîm fod wedi: gwrthbrofi rhagdybiaethau peryglus, datgelu pwyntiau ffrithiant cudd, nodi rhwystrau rheoleiddio, cyflawni gwelliannau gweladwy i unigolion, a nodi cyfleoedd ar gyfer cynnydd pellach.


Y 2 flynedd nesaf

Dros y ddwy flynedd ganlynol, dylai’r ffocws fod ar ehangu’r hyn sy’n gweithio a sefydlu diwygiadau:

  • Meithrin nifer o dimau grymus, pob un yn mynd i’r afael â mater penodol fel prinder gweithlu, modelau gwasanaeth newydd ar gyfer cymorth cartref, darparu hyfforddiant neu fabwysiadu technoleg.
  • Profi a mireinio modelau yn lleol, yna ehangu rhai llwyddiannus ledled Cymru gan ddod â’r rhai sy’n methu â chyflawni i ben.
  • Meithrin tryloywder drwy gyhoeddi data amser real fel nifer y bobl sy’n derbyn gofal, cleifion sy’n aros i gael eu rhyddhau o’r GIG, a phwyntiau pwysau mewn pecynnau gofal. Dylai’r metrigau hyn ategu sesiynau ‘dangos a dweud’ misol gyda gweinidogion, staff rheng flaen a’r cyhoedd.
  • Datblygu’r seilwaith digidol i gefnogi diwygio, nid trwy brynu un system ond trwy fabwysiadu ‘darnau bach, wedi’u cysylltu’n llac’ — er enghraifft, defnyddio GOV.UK Notify ar gyfer cyfathrebu neu GOV.UK Pay ar gyfer taliadau.

Erbyn diwedd yr ail flwyddyn, dylai’r gwasanaeth ddangos gwelliannau mesuradwy o ran effeithlonrwydd, profiad defnyddwyr ac ymddiriedaeth y cyhoedd, gyda sylfaen o dimau grymus, gweithio agored a seilwaith digidol yn barod ar gyfer trawsnewid ehangach.