Gwireddu hyn
Sefydlu ein 'ffordd well' yn ymarferol.
Mae mabwysiadu’r dull a nodir yn yr adroddiad hwn yn llawn yn golygu newid sut mae Llywodraeth Cymru yn dylunio polisi ac yn darparu gwasanaethau.
I ddangos hyn, rydym wedi creu braslun o sut olwg allai fod ar y 100 a’r 1,000 diwrnod cyntaf mewn dau faes:
- Cyflwyno Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol newydd
- Diwygio’r system gynllunio drwy Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 newydd
Mae’r rhain yn sail ymarferol enghreifftiol i’n ‘ffordd well’ - ond gellid cymhwyso’r un model i flaenoriaethau eraill… o ddiwygio cyfiawnder i ddatgarboneiddio.
Y model: ffordd well o gyflawni
Mae ein dull yn seiliedig ar bum egwyddor:
- Gosod y trywydd yn gynnar – cyhoeddi datganiad gwleidyddol clir o’ch bwriad a’ch chanlyniadau disgwyliedig i greu ‘Seren y Gogledd’ y gall pawb ei dilyn.
- Adeiladu timau grymus – grwpiau amlddisgyblaethol ag arbenigedd polisi, arbenigedd gweithredu, arbenigedd digidol a rheng flaen, a hynny dan arweiniad uwch berchennog gwasanaeth sydd â mynediad uniongyrchol at weinidogion.
- Dechrau gyda defnyddwyr – mapio anghenion a phwyntiau poen i bobl a staff, yn hytrach na datrysiadau pendant anhyblyg.
- Profi, dysgu, addasu – cynnal arbrofion bach gyda chylch adborth cyflym, gan symud ymlaen gyda’r hyn sy’n gweithio a chael gwared ar yr hyn sydd ddim.
- Gweithio yn agored – rhannu cynnydd yn rheolaidd drwy ddiweddariadau, data agored a briffiau cyhoeddus i feithrin ymddiriedaeth ac atebolrwydd.