Sut i gyrraedd yno
Mae gan Gymru y potensial i fod ar flaen y gad o ran gwasanaethau cyhoeddus modern, sy’n canolbwyntio ar bobl.
Ond i gyrraedd yno rhaid inni weithredu’n bendant mewn tri phrif faes: arweinyddiaeth, sgiliau a chyllido.
Arweinyddiaeth: Clir, beiddgar ac atebol
Penodi Gweinidog dros Ddigidol i arwain strategaeth genedlaethol weledigaethol, a bod yn atebol gan eirioli dros ddigidol ar y lefelau uchaf o lywodraeth.
Sefydlu Uned Cyflawni Digidol genedlaethol i Gymru, dan arweiniad Prif Swyddog Digidol sydd â’r awdurdod a’r gefnogaeth i arwain diwygio digidol, gan symud y ffocws o dechnoleg i ffyrdd o weithio sy’n gwella gwasanaethau.
Arwain trwy esiampl, gan ddangos dull radical newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus trwy wneud, profi a dysgu, a dod â thimau ynghyd ar draws y sector cyhoeddus.
Pobl: Buddsoddi mewn sgiliau ac arbenigedd fodern
Dod â sgiliau modern i’r sector cyhoeddus, gan gynnwys ymchwil defnyddwyr, dylunio gwasanaethau, dylunio rhyngweithio, dylunio cynnwys a pheirianneg, gan ddefnyddio timau amlddisgyblaethol i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.
Buddsoddi mewn llwybrau gyrfa a strwythurau cyflog i wneud Cymru yn lle deniadol i weithwyr proffesiynol digidol ac ymarferwyr dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Blaenoriaethu talent digidol a gwreiddio dealltwriaeth o arweinyddiaeth, gan greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr beiddgar, sy’n edrych i’r dyfodol, ac sy’n llythrennog yn ddigidol gyda sgiliau modern i yrru Cymru ymlaen.
Cyllid: Ailddyfeisio mecanweithiau cyflenwi
Ariannu timau nid prosiectau - timau sy’n canolbwyntio ar gydweithio traws-sector, datrys problemau a rennir, a thrwsio’r seilwaith i wneud gwasanaethau’n gyflym, yn hawdd ac yn hyblyg i’w newid.
Symleiddio a moderneiddio prosesau caffael i’w gwneud hi’n haws i fusnesau bach dendro, defnyddio contractau hyblyg, a rhannu prosiectau mawr yn ddarnau llai sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Cyflwyno tryloywder radical ar gyfer darpariaeth ddigidol i gynyddu ymddiriedaeth ac atebolrwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus, dangos cyflawni parhaus, ac adeiladu economi ddigidol Cymru.